Consertina

Consertina
Mathsqueezebox, free reeds Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Consertina

Offeryn cerdd hawdd ei gario, rhydd-gyrs tebyg i acordion yw'r consertina ac mae'n perthyn i'r teulu aeroffôn. Chwythir gwynt iddo drwy ddwy fegin a weithir â'r dwylo. Yn aml mae'r blociau botwm ar y naill ochr i'r fegin mewn siâp hecsagonol. Cynhyrchir nodau drwy chwarae'r bysedd ar hyd allweddellau sydd o boptu i'r offeryn.[1]

Mae'n cynnwys meginau ehangu a chrebachu, gyda botymau (neu allweddi) fel arfer ar y ddau ben, yn wahanol i fotymau acordion, sydd ar y blaen. Yn ddiweddarach datblygwyd y bandoneon o'r consertina (Almaeneg). Offeryn cerdd cysylltiedig yw consertina Chemnitzer, sy'n perthyn yn agos i'r bandoneon.

  1. "Consertina". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 27 Mawrth 2024.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search